Mae ‘na amryw o gestyll gallwch ymweld â nhw yn Sir Benfro.
Un o ffefrynnau Keith yw Castell Caeriw, a hynny am sawl rheswm.
Yn ôl Keith: “Mae’r castell ei hun yn enghraifft dda o adeilad sydd wedi ei addasu a newid dros bron i 500 mlynedd.
“Yn wreiddiol, roedd yn perthyn i Rhys ap Tewdwr, cyn iddo gael ei ladd gan y Normaniaid. Hwn hefyd oedd cartef (neu un ohonynt!) y Dywysoges Nest – un o fenywod mwyaf enwog Cymru, ac yn fam-gu i Gerallt Gymro,” meddai.
Hanner milltir i ffwrdd o’r castell mae “un o drysorau cudd y Sir, sef pentref Carew Cheriton,” meddai Keith.
Nepell i’r castell mae hen eglwys Santes Fair, lle y claddwyd un o berchnogion enwoca’r castell, sef Rhys ap Tomos.
Yn ôl yr hanes, fe oedd y dyn laddodd y Brenin Richard III yn 1485, ac wrth wneud hynny, rhoi’r Cymro Harri Tudur ar yr orsedd.

















































