Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer oedd hon heb yr Archdderwydd na’r Orsedd yn cymryd rhan.
Mae cwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru wedi dod ynghyd i greu consortiwm fel rhan o bartneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i gynnig pecyn o gyfleoedd i enillydd y fedal.
Aelodau’r consortiwm yw Frân Wen, Theatr Bara Caws, Theatr Clwyd, Theatr Cymru, Theatr Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch ynghyd â’r Eisteddfod.
Roedd y panel o feirniaid eleni yn cynrychioli aelodau’r consortiwm sef Daniel Lloyd (Theatr Clwyd), Rhian Blythe (Theatr Cymru), Ffion Dafis (Theatr Bara Caws), Gethin Evans (Frân Wen), Ffion Wyn Bowen (Cwmni Theatr Arad Goch), Lowri Morgan (Theatr y Sherman) ac Alice Eklund (Theatr y Torch).
Cafodd Leo Drayton a Nia Morais eu penodi i’r panel beirniaid fel ymarferwyr llawrydd.
Mae’r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam yn rhoddedig gan eu plant Hywel, Sioned a Steffan a £3,000 ( yn rhoddedig gan Cware ac Olew Trefigin).















































