Mae cynnig wedi cael ei gyflwyno i ddatblygu addysg ddeintyddol ledled gogledd a chanolbarth Cymru.
Mae’r cynllun ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth ac wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
O dan y cynnig, byddai’r ysgol yn cael ei harwain gan y ddwy brifysgol ac yn darparu addysg ddeintyddol i gryfhau gofal sylfaenol a chymunedol mewn cymunedau gwledig a Chymraeg eu hiaith.
Roedd datganiad ar wefan Prifysgol Bangor yn dweud mai nod y cynllun, sydd ar y cyd gyda’r byrddau iechyd a Phrifysgol Caerdydd, ydy “creu cyfleoedd hyfforddi deintyddol newydd”.
Y gobaith, meddai’r datganiad, ydy “mynd i’r afael â’r angen am addysg a gwasanaethau deintyddol gwell yng ngogledd a chanolbarth Cymru”.
















































