Mae corff llywodraethol Ysgol Ysbyty Ifan yn ddamniol o fwriad y cyngor, gan ddweud nad ydy opsiynau eraill wedi eu hystyried yn llawn a bod dyletswydd ar y cyngor i ystyried cenedlaethau’r dyfodol hefyd.
“Mae’r ysgol yma yn galon i’r gymuned,” meddai un rhiant, Hefin Jones.
“Does ‘na ddim llawer o bethau yn yr ardal, ac mae hi’n clymu pob peth efo’i gilydd.”
Mae pryder wedi’i fynegi y bydd Betws-y-coed yn troi’n “yr Abersoch nesaf” pe bai’r ysgol yno’n cau.
Ychwanegodd rhiant yno, Ruth Roberts ei bod yn poeni y bydd “pobl yn symud i ffwrdd” heb ysgol gynradd yn y pentref.
“Maen nhw ‘di ailwneud y cantîn a’r ffenestri, so mae ‘na lot o botensial i’r ysgol os fysa fo’n cael ei gadw ar agor,” meddai.













































