Bydd yr arian sy’n cael ei godi gan yr ardoll – amcangyfrif o £3.5m, yn cael ei dalu i Awdurdod Cyllid Cymru, fyddai yn ei dro yn ei dalu i awdurdodau lleol.
Mae’r ardoll yn berthnasol i unrhyw un sy’n talu i aros dros nos am lai na 31 noson, mewn llefydd fel gwestai, hostelau, llety gwyliau ac Airbnb, gwersylloedd a llety digwyddiadau dros dro.
£1.30 y pen y noson fydd y gost ar gyfer y mwyafrif o arosiadau, tra byddai’n gostwng i 75c ar gyfer gwersylloedd ac ystafelloedd sy’n cael eu rhannu, fel hosteli.
Bydd rhai ymwelwyr yn cael eu heithrio, gan gynnwys plant dan 18 oed sy’n aros mewn gwersylloedd neu ystafelloedd sy’n cael eu rhannu, pobl sy’n aros am fwy na 31 noson mewn un archeb, a phobl mewn llety brys neu dros dro sydd wedi’i drefnu gan y cyngor.
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas wedi dweud na fyddai’r ardoll yn cael ei defnyddio i “lenwi bylchau” mewn rhannau eraill o gyllideb y ddinas.
Dywedodd y bydd yn cael ei wario ar gostau sy’n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau mawr fel cyngherddau Oasis y llynedd.














































