Dywedodd Owain Clatworthy, cyn-gynghorydd Reform ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd bellach gyda Restore Britain, ei bod hi wedi “ymddwyn yn wydn drwy heriau gwleidyddol a phersonol, gan aros bob amser yn driw i bwy oedd hi”.
“Roedd Caroline yn credu ym mhwysigrwydd democratiaeth, rhyddid barn, a sefyll dros bobl gyffredin.”
Dywedodd Llŷr Powell, AS Reform dros Flaenau Gwent Caerffili Rhymni, ar X: “Rwyf wedi adnabod Caroline Jones ers dros 15 mlynedd ac rwyf wedi fy synnu a’m tristáu gan y newyddion heddiw. Mae fy meddyliau a’m gweddïau gyda’i hanwyliaid ar yr adeg anodd hwn.”
“Gorffwys mewn hedd,” ychwanegodd.















































