Rhoddodd Joe Rodon y dechrau perffaith i Gymru ar ôl i’r tîm cartref fygwth gôl Gwlad Belg sawl tro yn y munudau agoriadol.
Roedd yr amddiffynnwr yn rhydd yng nghwrt yr ymwelwyr i benio i’r rhwyd o gic gornel Sorba Thomas wedi saith munud.
Ond fe wnaeth Gwlad Belg daro’n ôl bron yn syth drwy gic o’r smotyn dadleuol Kevin De Bryune.
Roedd y dyfarnwr fideo wedi ymyrryd ar ôl i’r bêl daro llaw Ethan Ampadu yn y cwrt, ac bod ei fraich wrth ei ochr, a’r bêl wedi ei tharo yn agos iddo, fe gytunodd y dyfarnwr ar y cae ei bod yn drosedd gan y Cymro.
Roedd y gêm wedi ei throi ar ei phen yn fuan wedyn wrth i Jeremy Doku ddyfalbarhau i lawr asgell chwith Cymru.
Tynnodd y bêl yn ôl yn berffaith i Thomas Meunier oedd wedi amseru ei rediad yn berffaith i’r cwrt, a tharo chwip o ergyd heibio Karl Darlow yn y gôl i Gymru.
Fe allai Gwlad Belg fod wedi manteisio ymhellach hefyd, wrth i Arthur Theate wastraffu cyfle da yn y cwrt cyn i Rodon lwyddo i atal ergyd Leandro Trossard gydag amddiffyn gwych cyn yr egwyl.
Roedd Doku’n parhau’n fygythiad i lawr yr asgell, gan greu cyfle da i De Bryune, ond tarodd yntau ei ergyd ymhell dros y trawst.
Yr ymwelwyr, felly oedd ar y brig ar yr hanner o 2 i 1.














































