Mae Aelodau’r Senedd wedi pleidleisio o blaid rhoi’r grym i weinidogion reoli gwasanaethau cymorth i farw yng Nghymru, petai deddf San Steffan yn cael sêl bendith.
Roedd 28 pleidlais o blaid, 23 yn erbyn ac fe wnaeth dau Aelod o’r Senedd ymatal.
Mae’r bleidlais nos Fawrth yn golygu y bydd gan weinidogion Cymru y grym i sefydlu gwasanaethau cymorth i farw ar y Gwasanaeth Iechyd.
Byddai pleidlais yn erbyn wedi golygu y byddai gwasanaethau cymorth i farw ond ar gael yn breifat.
Ymhlith y rhai a wnaeth bleidleisio yn erbyn oedd y Prif Weinidog Eluned Morgan a’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles.
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bleidleisio o blaid a Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, yn erbyn.
Fe wnaeth Aelodau’r Senedd gefnogi gwelliant Plaid Cymru a oedd yn beirniadu “diffyg ystyriaeth drylwyr gobygliadau cyfansoddiadol y mesur hwn i Gymru”.

















































