Mae dyn 35 oed wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl digwyddiad ar stryd yn Abertawe ddydd Gwener.
Mae Bokan Qadiri, o Flaenymaes, Abertawe, wedi ei gyhuddo o wneud bygythiadau i ladd a bod ag arf ymosodol mewn man cyhoeddus hefyd.
Daw’r cyhuddiadau yn dilyn adroddiad fod dyn â chyllell yn ceisio ymosod ar ddyn arall ar Heol San Helen yn ardal Sandfields y ddinas fore Gwener.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd a bod y digwyddiad yn cael ei drin fel achos unigol.
Yn ôl yr heddlu, cafodd Qadiri ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r achos.
Ychwanegodd Heddlu De Cymru eu bod yn deall y gall digwyddiadau o’r fath beri pryder i’r gymuned, ond dywedon nhw nad oedd hwn yn ymosodiad ar hap ac nad oedd unrhyw risg ehangach i’r cyhoedd.














































