Y deg olaf i gael eu dedfrydu ddydd Gwener am derfysg (riot) oedd:
Connor O’Sullivan 27, o Gaerau – 5 mlynedd
Erbyn 21:47 roedd o ar flaen y dorf yn taflu nifer sylweddol o daflegrau tuag at yr heddlu gan gynnwys brics.
Fe waeddodd: “Dewch, dewch bois”, cyn taflu drws at swyddogion.
Aeth at ddyn oedd yn ffrydio’r terfysg yn fyw, ac fe’i clywyd yn dweud: “Ely Gang. Ely Gang.”
Bu’n annog eraill i gymryd rhan ac fe geisiodd guddio’i wyneb.
Roedd y llys yn gwbl dawel wrth iddo fynd i lawr o’r doc.
Callum O’Sullivan, 25, o Drelai – 3 blynedd a 9 mis
Roedd yn bresennol ers dechrau’r digwyddiad, ac er ei fod yn gwylio ar y dechrau, fe ymunodd yn y trais gan daflu taflegrau.
Fe’i gwelwyd yn ddiweddarach yn mynd â bag at griw oedd wedi cynnau tân, a rhoi cynnwys y bag ar y tân.
Roedd yn ceisio cuddio’i wyneb gyda’i grys-T.
Mae’r barnwr yn dweud iddi ystyried ei anawsterau dysgu wrth gyflwyno’r ddedfryd.
Lee-Martin McQuade, 30, o Drelai – 6 blynedd 4 mis
Ar Heol Snowden, fe wnaeth McQuade sylwadau sarhaus at swyddogion.
Fe’i gwelwyd yn rhan o grŵp fu’n paratoi bomiau petrol.
Fe gafodd un ei daflu tuag at yr heddlu a tharo PC Zoe Lea, a dechreuodd losgi ei dillad.
Dywedodd wrth eraill i “godi brics” ac annog y dorf i ymosod ar yr heddlu.
Mi ddywedodd wrth y dorf i “daro gorsaf heddlu Trelái” gyda bomiau petrol a thargedu coesau swyddogion a bod angen cicio’u tariannau.
Roedd yna ochneidiau o’r oriel gyhoeddus pan gafodd y ddedfryd ei chyhoeddi.
“Tawelwch,” dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke, gan ychwanegu nad oedd unrhyw aelod o’r oriel gyhoeddus yn cael dod i’r llys yn gwisgo mwgwd “heb dystiolaeth feddygol i brofi bod ei angen.”
Gemma Virgin, 45, o Drelai – 3 blynedd ac 8 mis
Fe daflodd y fam-gu sawl taflegryn at yr heddlu.
Roedd hi’n gweiddi sylwadau sarhaus tuag at swyddogion.
Fe ddywedodd hi wedyn ei bod hi dan ddylanwad alcohol ar y pryd a’i bod hi wedi neidio ar y “band wagon.”
Fe wnaeth aelod ifanc o’r oriel gyhoeddus adael yn ei dagrau wrth i Virgin fynd i lawr o’r doc.
Malaki McQuade, 19 o Drelai – 6 blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc
Roedd o’n 16 oed ar y pryd.
Ar y noson fe’i gwelwyd yn cerdded oddi wrth y dorf pan gafodd y botel gyntaf ei thaflu.
Erbyn 21:00 roedd wedi gorchuddio’i wyneb gyda balaclafa, ac fe helpodd eraill i guddio’u hwynebau hefyd.
Fe daflodd ddau daflegryn tuag at swyddogion.
Fo oedd un o’r grŵp a drodd gar ei do.
Fe gafodd ei ddedfrydu hefyd am drywanu merch dair gwaith mewn digwyddiad ar wahân, ar ei ben-blwydd yn 17 oed, ac am werthu a dosbarthu cyffuriau gan gynnwys cocên a heroin.
Mae’r barnwr wedi’i ddedfrydu am yr holl droseddau.
Gan ei fod wedi cyflawni troseddau pellach tra’i fod ar fechnïaeth am ei ran yn y terfysg, mae’i ddedfryd yn uwch.
Roedd ei fam yn ei dagrau wrth glywed hyd y ddedfryd.
Liam Black, 21, o Drelai – 6 blynedd 9 mis
Fe daflodd nifer o daflegrau a phaled pren at yr heddlu.
Ar ôl gwneud hynny fe aeth i’w nôl er mwyn ei daflu eto.
Fe daniodd dân gwyllt tuag at swyddogion, ac fe daflodd ddarn o bren oedd yn llosgi tuag atyn nhw.
Fe fu yn ffilmio car yn cael ei droi ar ei ochr.



















































