Mae dyn wedi cael ei garcharu am 21 mlynedd ar ôl pledio’n euog i ddegau o droseddau rhyw yn erbyn merch o Sir Gaerfyrddin.
Plediodd Jordan Richards, 35 o Kidderminster yn Sir Gaerwrangon, yn euog i 36 o droseddau rhywiol yn erbyn yr un plentyn rhwng 2012 a 2016.
Roedd Richards wedi pledio’n ddieuog yn wreiddiol yn Llys y Goron Abertawe, cyn newid ei ble ar ail ddiwrnod yr achos llys
Cyfaddefodd i 36 cyhuddiad, gan gynnwys 31 achos o dreisio’r ferch pan roedd hi rhwng 15 ac 17 oed, a chynhyrchu dros 600 o luniau anweddus ohoni.
Clywodd y llys y digwyddodd y troseddau yn ardal Rhydaman rhwng 2012 a 2016.
Cafodd Richards ei ddedfrydu ddydd Gwener, 21 Awst, i 21 mlynedd o garchar, a phedair blynedd arall ar drwydded.
Bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol hefyd am gyfnod amhenodol, gorchymyn atal rhag y goroeswr am gyfnod amhenodol, a bydd yn rhaid iddo gydymffurfio â gofynion o dan y Ddeddf Troseddwyr Rhywiol am weddill ei oes.














































