Wrth drafod y posibiliadau ar gyfer dyfodol y campws, siaradodd y dirprwy is-ganghellor Dr Debra Williams am sefydlu grŵp rhanddeiliaid allweddol gyda chynrychiolwyr o gyngor y dref, staff, undeb myfyrwyr, cyngor sir a chynrychiolaeth wleidyddol.
Ar 19 Mawrth bydd ffurflen syniadau yn cael ei rhoi ar wefan y brifysgol.
Roedd yna nifer yn y cyfarfod yn gofyn cwestiynau am ddyfodol asedau’r brifysgol gan gynnwys y llyfrgell.
Dywedodd Elin Jones AS: “Maen nhw [yr asedau] yn berchen i’r dre a ddylen nhw ddim gael eu cymryd i ffwrdd.”
Opsiynau eraill a drafodwyd oedd cynnig cyrsiau byrrach, cyrsiau preswyl cyfrwng Cymraeg a chanolfan ddiwinyddol ryngwladol.
Gofid yr heddlu a rhai trigolion lleol y byddai gadael adeiladau yn wag yn denu mwy o droseddwyr i’r ardal.
Ychwanegodd Elin Jones wedi’r cyfarfod ei bod wedi’i chyffroi gan y syniadau a ddaeth o’r llawr – un syniad oedd adleoli rhai o gyrff cenedlaethol Cymru i Lambed ac yn eu plith y Coleg Cymraeg.
“Mae yna grŵp nawr wedi ei sefydlu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r dre a’r brifysgol a’r cam nesaf yw edrych ar ba syniadau sy’n realistig,” meddai.













































