Mae dyn 36 oed wedi cael ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â hiliaeth ar ôl digwyddiad yng Nghaernarfon.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y cyhuddiad yn dilyn digwyddiad ar Stryd Llyn yn y dref brynhawn Gwener.
Mae Michael Owen Williams wedi cael ei gyhuddo o drosedd dan y drefn gyhoeddus, wedi’i ysgogi gan hiliaeth.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun.



















































