Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod APHA, ar y ddau safle, yn “parhau i weithio ar weithredu mesurau rheoli clefydau yn unol â’n strategaeth rheoli clefydau”.
“Mae awdurdodau iechyd cyhoeddus hefyd wedi cael gwybod fel rhan o’r mesurau a gymerir yn rheolaidd.
“Hoffem ddiolch i geidwaid dofednod ac adar caeth ledled Cymru am roi mesurau ar waith i gadw eu heidiau’n ddiogel rhag y feirws heintus iawn hwn.”
Ychwanegodd y llefarydd ei bod hi’n hanfodol bod ceidwaid adar yn “cymryd camau i wirio ac atgyfnerthu mesurau hylendid a bioddiogelwch”.
Dywedodd NFU Cymru bod y newyddion yn “hynod bryderus”.
“Mae’n ychwanegu at y pwysau sy’n cael ei deimlo gan ffermwyr, sydd eisoes yn brwydro yn erbyn bygythiadau clefydau anifeiliaid ar sawl ffrynt.”
Ychwanegodd y llefarydd fod y ffaith fod y ffliw wedi cael ei ddarganfod mewn dwy ardal ar wahân o Gymru yn “arbennig o bryderus”.
“Dylai ymwelwyr diangen gael eu cadw i ffwrdd o’r fferm pryd bynnag y bo modd,” meddai.

















































