Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn ddydd Gwener, dywedodd Bryn Fôn bod ‘na “ddiffyg parch ofnadwy at y ddrama gan yr Eisteddfod”.
Ag yntau wedi bod yn ceisio mynnu atebion gan yr Eisteddfod ynghylch canslo’r seremoni, dywedodd ei fod yn “teimlo bach o hypocrite os fyswn ni wedi derbyn gwahoddiad yr Eisteddfod i berfformio ac wedi cymryd cyflog gan yr Eisteddfod ar un llaw ac ar y llaw arall ‘mod i wrthi yn protestio ac yn dal i ofyn iddyn nhw am atebion i’r sefyllfa o ohirio seremoni’r Fedal Ddrama”.
“Sut mae awduron y dyfodol fod i feddwl am gystadlu eto achos bod y peryg yma fod y pethe maen nhw am sgwennu yn torri deddf gwlad.”
Aeth ymlaen i ddweud fod yr Eisteddfod yn “rhoi datganiadau annelwig a dim wir yn dweud wrthym ni beth sydd wedi digwydd”.
Dywedodd nad rhywbeth o’r newydd yw agwedd yr Eisteddfod at fyd y ddrama, a’i fod “wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd… mae ‘na ddiffyg parch tuag at y ddrama.. ‘di’r dramâu buddugol ddim wedi cael eu parchu”.
















































