Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae nifer o ysgolion ar draws Cymru wedi methu agor ac mae trafferthion ar y ffyrdd ar ôl i eira ddisgyn dros nos mewn mannau.
Bu’n rhaid i bron i 50 o ysgolion aros ar gau ym Mhowys, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ddydd Mawrth wrth i’r tywydd gaeafol barhau.
Daeth rhybudd melyn am eira a rhew fu mewn grym dros nos yn y rhan fwyaf o Gymru i ben fore Mercher, ond bydd un wahanol yn dod i rym yn chwe sir y gogledd a Phowys am 16:00 ddydd Mercher, gan bara tan 10:00 fore Iau.














































