Roedd yna lwyddiant arall i’r Gymraes, Lauren Price, nos Sadwrn wrth iddi gadw ei theitl o fod yn bencampwr pwysau welter y byd wedi gornest yn erbyn Bexcy Mateus o Golombia.
O’r dechrau. o flaen torf o 4,000 yn Lerpwl, roedd llaw chwith Price yn drech na Mateus ac fe stopiodd y dyfarnwr yr ornest yn y drydedd rownd.
Lauren Price yw’r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth bocsio byd.
Fe drechodd Jessica McCaskill o Chicago ym mis Mai eleni i hawlio pencampwriaeth pwysau welter y WBA.
















































