“‘Dan ni am ddangos y gorau o be sydd o ran pêl-droed, sut mae pêl-droed yn dod â phobl at ei gilydd a hynny ar draws [gêm y] merched, dynion a chymunedau,” ychwanegodd.
“Yn yr un modd ‘dan ni eisiau dangos yr hanes sydd y mae gennym ni lot o barch tuag ato yn Wrecsam.”
Yn ôl Mr Jones, mae gan yr amgueddfa newydd rôl bwysig.
“Yn y gogledd, mae ‘na fwlch wedi bod, dwi’n gwybod fod ‘na sawl amgueddfa yn y de, ond i ni yn y gogledd dwi’n meddwl fod hwn yn llenwi’r bwlch yn dda ac mae’r hanes sydd gennym ni yma yn Wrecsam, mae’n adrodd hanes sawl cymuned ar draws y gogledd hefyd.”

















































