Dywedodd mai nod hynny oedd sicrhau “bod ni yn ‘neud unrhyw addasiadau sydd yn angenrheidiol i sicrhau bod yr amserlen yn llifo i ddisgwyliadau pawb”.
“Galla i ddweud bod yr ymateb ni wedi cael hyd yma wedi bod yn galonogol dros ben,” meddai.
Bwriad newid yr ŵyl i fod yn saith diwrnod oedd er mwyn ehangu’r cystadlaethau ar gyfer dysgwyr ac ysgolion anghenion ychwanegol.
“Mae’r ymatebion wedi bod yn bositif, a nifer yn gweld y peth fel rhywbeth maen nhw eisiau gweld yn para,” meddai Ms Lewis.
Mewn cyfweliad arall brynhawn Gwener, dywedodd ei bod yn “braf gweld mwy o gystadleuwyr yma yng ngogledd Cymru nag erioed o’r blaen” o ganlyniad estyn y brifwyl.
“Parhau i dyfu wnawn ni, parhau i wrando ar leisiau pobl ifanc a sicrhau bod yr Urdd yn agor ymhellach i fwy o gynulleidfaoedd.”















































