Wrth ddisgrifio yr hyn mae e’n ei gofio o’r digwyddiad ar 5 Chwefror, dywedodd y bachgen fod Vicki Williams wedi sylwi ar rywbeth yn ei fag tra’n edrych dros ei waith, a’i bod wedi gofyn iddo i dynnu’r peth oddi yno.
Mae e’n dweud ei fod wedi tynnu’r gyllell o’i fag yn unol â gorchymyn yr athrawes a bod y llafn yn pwyntio am i lawr.
“Beth oedd ymateb Vicki Williams?,” gofynnodd ei fargyfreithiwr.
“Mewn sioc, roedd ei cheg ar agor a’i llygaid yn llydan,” meddai.
Mae e’n gwadu “hyrddio” at yr athrawes gyda’r gyllell.
“Fe ddywedodd hi, ‘dere â honna i mi’,” meddai, “fe ddywedais i ‘na’.”
Esboniodd ei fod wedi gwrthod rhoi’r gyllell iddi, gan nad oedd eisiau mynd i drwbl am ddod â chyllell i’r ysgol.
Dywedodd iddi wedyn gydio yn llafn y gyllell â’i ddwy law, a’i fod ef wedi ceisio mynd â’r gyllell oddi wrthi.
“Roedd y gyllell yn mynd i bobman,” meddai.
Mae e’n gwadu gweld y gyllell yn cyffwrdd â’i phen ond yn derbyn fod hynny wedi digwydd.
Dywedodd fod yr athrawes yn ymladd ag ef am ‘tua 10 eiliad’, cyn iddi sgrechian.
“Aeth popeth yn ormod, felly fe redais i allan,” meddai.
Mae e’n gwadu cynllunio yr ymosodiad ac yn dweud nad oedd hyn yn rywbeth yr oedd wedi dymuno i ddigwydd.
Mae’r achos yn parhau.

















































