Clywodd y llys wedyn gan Nicole English, a weithiodd i wasanaeth carchardai’r Unol Daleithiau am 30 o flynyddoedd.
Mae bywyd mewn carchar diogelwch uchel, meddai, yn ymfflamychol, gyda lefelau uchel o ddefnyddio cyffuriau a diwylliant gangiau mwy dwys.
Pan ofynnwyd iddi sut fyddai bywyd Mr San Diego yn y fath amgylchedd, atebodd: “Fe fyddai’n fregus iawn a byddai angen arno ffordd o gael ei warchod.”
Fe allai hynny olygu, meddai, ymuno â gang sy’n gorchafu pobl gwyn fel ffordd o gael ei warchod rhag gangiau neu unigolion eraill.
Ond dywedodd wrth gael ei chroesholi nad yw’n sicr pa mor fynych yw’r gangiau neilltuol hynny yn y carchardau ble gallai Mr San Diego gael ei gadw.
Dywedodd Joel Smith bod achosion o ymosodiadau difrifol mewn carchardai diogelwch uchel yn gymharol isel – tri o bob 500 – yn ôl ystadegau llywodraeth yr Unol Daleithiau.














































