Mae’n adeg pryderus iawn i ffarmio. Mae yna gymaint o newidiadau rŵan yn y maes, a gymaint o elfennau amgylcheddol wedi dod i mewn iddi. Mae’n stori hollol wahanol i sut fuodd hi.
Oedd hi’n ffarm hen ffasiwn i gychwyn hefo, felly ychydig iawn o wrtaith, doedd y tir ddim wedi cael ei droi. Oedd o wir yn hen ffasiwn, gyda dim ond y defaid yma. Y broblem fwyaf efo defaid ydy sut i’w trin nhw, ac yn aml iawn maen nhw angen lot o gemegau, maen nhw angen lot o’r dosus yma yn enwedig ar ôl cyfnodau hir, gwlyb, lle mae ffliwc yn medru bod yn broblem.
Ein blaenoriaeth ni ydy edrych ar ôl y tir, edrych ar ôl y pridd, adeiladu’r pridd a chael fwy o fioamrywiaeth.
Felly, ‘da ni ond yn gwneud beth sydd yn siwtio ni a’n ffarm ni. Dwi’n ffeindio gwerth mawr mewn gwlân defaid. Yn hytrach na gyrru’r gwlân i’r bwrdd gwlân, ‘da ni’n cadw’r gwlân a’n defnyddio’r gwlân fel mulch o gwmpas coed. Pan ‘da ni’n plannu coed, ‘da ni’n defnyddio fo ar gyfer hwnnw.
Ac wedyn, mae ‘na ffenest i werthu’r gwlân hefyd i bobl sydd yn hoffi garddio. Mae o’n andros o ddeunydd defnyddiol.
‘Da ni’n plannu coed mewn ffurf gwrychoedd rhan fwyaf, ond mi fyddwn ni eisio plannu mwy o goed. ‘Da ni mor uchel i fyny ac mae cysgod gan y coed yn werthfawr i ni.
A ‘da ni’n defnyddio’r gwlân pan ‘da ni wedi plannu’r coed am nifer o resymau wir. Yn un peth, mae o’n cadw’r tir yn damp o dan y coed. Os oes yna adegau sych, mae’r coed ifanc yn medru byw yn iawn achos mae digon o ddŵr wedi cael ei ddal yn y tir. Mae’r gwlân yn torri lawr ac yn wrtaith naturiol bendigedig mewn blwyddyn neu ddwy, felly yn bwydo’r goeden fel mae’n tyfu.
Pan mae’r adar bach yn dod i nythu, maen nhw’n medru defnyddio’r gwlân. Ac y peth mwyaf difyr hefyd ydy, o dan y gwlân mae’n bosib gweld tyllau bach ac hoel voles ydy rheiny. Mae o’n rhoi cartref i’r rheiny ac wrth reswm, lle bynnag mae’r rheiny’n dod, dydy’r dylluan ddim yn bell ar eu holau nhw. Ac mae o jest yn ychwanegu at gylch bywyd ar y ffarm.

















































