Daeth y dyfarniadau ar ddiwedd achos a barodd am ychydig dros wythnos, ac fe gymrodd y rheithgor dros bedair awr i ystyried y dystiolaeth.
Bu’n rhaid cynnal yr achos o’r newydd fis Ionawr wedi i’r un cyntaf ddymchwel ym mis Hydref oherwydd “anghysondeb mawr” yn y rheithgor.
Wrth grynhoi’r achos yn gynharach ddydd Llun, dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn bod dim digon o dystiolaeth i brofi bod y ferch wedi bwriadu lladd y tri dioddefwr, serch unrhyw “sioc, syndod neu arswyd” y gallai’r rheithgor fod wedi eu teimlo wrth glywed y dystiolaeth.
Ychwanegodd Caroline Rees KC bod gan y diffynnydd, oedd yn 13 oed ar y pryd, “gefndir o unigedd a hunan-niwedio”, a’i bod yn “ffaith drist iawn bod y ferch wedi dod i’r arfer o gario arf i’r ysgol bob dydd” am ei bod yn ofni cael ei bwlio.
Ond roedd yr erlyniad yn dadlau bod yr ymosodiadau “yn fwriadol ac wedi eu hailadrodd”, ac y gallai’r anaf i wddf Liz Hopkin fod “fod wedi arwain at rywbeth lawer mwy difrifol”.
Yn ôl William Hughes KC, roedd darluniau’r ferch, yn cyfeirio at ladd Fiona Elias a’r disgybl a gafodd ei thrywanu, yn amlygu ei chyflwr meddyliol ar y pryd.
















































