Mae 11 o bobl wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â honiadau am fridio cŵn yn anghyfreithlon a thwyll.
Ymhlith y diffynyddion fore Mercher roedd cynghorydd sir Ceredigion, Euros Davies, a’r gantores Sara Pritchard Davies, cyn-enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru S4C yn 2024.
Mae’r achos wedi cael ei ddwyn gan Gyngor Sir Ceredigion.
Plediodd Sara Davies yn ddieuog, drwy gyfrwng y Gymraeg, i gyhuddiad o gymryd rhan mewn busnes twyllodrus, sef bridio a chyflenwi cŵn yn anghyfreithlon, ac ail gyhuddiad o gaffael eiddo troseddol, sef arian trwy weithgarwch troseddol.

















































