{"id":63017,"date":"2026-10-18T17:44:42","date_gmt":"2026-10-18T17:44:42","guid":{"rendered":"https:\/\/news.godj.com\/news\/gollyngiad-cerosin-wedi-lledu-dros-ddwy-filltir-ar-hyd-afon-taf\/"},"modified":"2026-10-18T17:44:42","modified_gmt":"2026-10-18T17:44:42","slug":"gollyngiad-cerosin-wedi-lledu-dros-ddwy-filltir-ar-hyd-afon-taf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/news.godj.com\/news\/gollyngiad-cerosin-wedi-lledu-dros-ddwy-filltir-ar-hyd-afon-taf\/","title":{"rendered":"Gollyngiad ceros\u00een wedi lledu dros ddwy filltir ar hyd Afon Taf"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b>Mae pobl sy&#8217;n byw ger yr Afon Taf wedi cael cyngor i gadw drysau a ffenestri ar gau oherwydd gollyngiad ceros\u00een sydd wedi llygru&#8217;r afon.<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y llygredd yn effeithio ar bron ddwy filltir a hanner o&#8217;r afon, gan gynnwys ardaloedd Nantgarw, Trefforest, Glan-y-Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Doedd CNC ddim am gadarnhau lleoliad tarddiad y gollyngiad hyd nes diwedd eu hymchwiliad, ond mae cwmni lleol, GE Aerospace wedi cadarnhau ei fod wedi digwydd yn ystod gwaith cynnal a chadw ar y safle.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ychwangodd llefarydd y cwmni eu bod yn helpu CNC a swyddogion Gwasanaeth T\u00e2n ac Achub De Cymru, sy&#8217;n rhoi cymorth gydag offer arbenigol i leihau maint y ceros\u00een sy&#8217;n cyrraedd yr afon.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ers dod o hyd i darddiad y llygredd am 19:30 nos Wener, mae swyddogion CNC yn ceisio cadarnhau sut y cyrhaeddodd y system ddraenio.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae &#8220;camau wedi eu cymryd i leihau&#8217;n sylweddol maint y llygredd sy&#8217;n cyrraedd yr isafon, tra bod gwaith ymchwilio&#8217;n mynd yn ei flaen i geisio atal y llygredd yn llwyr&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae swyddogion hefyd yn cymryd samplau er mwyn cadarnhau &#8220;union effaith amgylcheddol y gollyngiad&#8221;.<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/ck79pllggwevo?at_medium=RSS&#038;at_campaign=rss\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl sy&#8217;n byw ger yr Afon Taf wedi cael cyngor i gadw drysau a ffenestri ar gau oherwydd gollyngiad ceros\u00een sydd wedi llygru&#8217;r afon. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y llygredd yn effeithio ar bron ddwy filltir a hanner o&#8217;r afon, gan gynnwys ardaloedd Nantgarw, Trefforest, Glan-y-Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais. Doedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":63018,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[50],"tags":[17150,17147,16856,6922,17149,17146,8025,17148,17151,990],"class_list":["post-63017","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-wales","tag-afon","tag-cerosin","tag-ddwy","tag-dros","tag-filltir","tag-gollyngiad","tag-hyd","tag-lledu","tag-taf","tag-wedi"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63017","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=63017"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63017\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":63019,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/63017\/revisions\/63019"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/63018"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=63017"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=63017"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=63017"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}