{"id":60092,"date":"2026-09-04T16:58:49","date_gmt":"2026-09-04T16:58:49","guid":{"rendered":"https:\/\/news.godj.com\/news\/yr-ysgolhaig-ar-casglwr-caneuon-gwerin-roy-saer-wedi-marw-yn-90-oed\/"},"modified":"2026-09-04T16:58:49","modified_gmt":"2026-09-04T16:58:49","slug":"yr-ysgolhaig-ar-casglwr-caneuon-gwerin-roy-saer-wedi-marw-yn-90-oed","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/news.godj.com\/news\/yr-ysgolhaig-ar-casglwr-caneuon-gwerin-roy-saer-wedi-marw-yn-90-oed\/","title":{"rendered":"Yr ysgolhaig a&#8217;r casglwr caneuon gwerin Roy Saer wedi marw yn 90 oed"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Am flynyddoedd bu&#8217;n casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin Cymraeg, gan deithio drwy Gymru gyda charafan yn recordio unigolion yn canu a chasglu eu hatgofion am ganeuon traddodiadol.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd hynny yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon &#8211; yn eu plith y traddodiad canu plygain.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Bwriad y prosiect gyda&#8217;r amgueddfa oedd sicrhau nad oedd caneuon gwerin yn diflannu am byth, a chan gydweithio gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, byddai Roy Saer yn astudio&#8217;r caneuon a gasglwyd ers ffurfio&#8217;r Gymdeithas ym 1906, gan gofnodi unrhyw newidiadau a datblygiadau yn y caneuon.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dros y blynyddoedd cofnododd gannoedd o ganeuon gan gyfrannu at y casgliad sydd yn archif yr Amgueddfa Werin.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd yn mynychu cynadleddau Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ers 1963, a daeth yn Llywydd Anrhydeddus ar y gymdeithas.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Yn 2019 cafodd Roy Saer ei anrhydeddu yn noson Gwobrau Gwerin Cymru, gyda Gwobr Cyflawniad Oes am ei ddegawdau o waith ym maes caneuon traddodiadol Cymru.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las cynhaliwyd rhaglen deyrnged i ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae Roy Saer yn gadael tri o feibion &#8211; Dafydd, Ifan ac Owen. Bu farw ei wraig Ann yn 2018.<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/cp301p96yx7o?at_medium=RSS&#038;at_campaign=rss\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Am flynyddoedd bu&#8217;n casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin Cymraeg, gan deithio drwy Gymru gyda charafan yn recordio unigolion yn canu a chasglu eu hatgofion am ganeuon traddodiadol. Roedd hynny yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon &#8211; yn eu plith y traddodiad canu plygain. Bwriad y prosiect gyda&#8217;r amgueddfa oedd sicrhau nad oedd caneuon gwerin yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":60093,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[50],"tags":[16594,16593,16595,6278,4164,12572,16596,990,16592],"class_list":["post-60092","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-wales","tag-caneuon","tag-casglwr","tag-gwerin","tag-marw","tag-oed","tag-roy","tag-saer","tag-wedi","tag-ysgolhaig"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/60092","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=60092"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/60092\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":60094,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/60092\/revisions\/60094"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/60093"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=60092"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=60092"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=60092"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}