{"id":56570,"date":"2026-07-13T15:28:55","date_gmt":"2026-07-13T15:28:55","guid":{"rendered":"https:\/\/news.godj.com\/news\/aberdaugleddau-cyllell-yn-yr-ysgol-er-mwyn-ei-dangos-i-ffrindiau\/"},"modified":"2026-07-13T15:28:55","modified_gmt":"2026-07-13T15:28:55","slug":"aberdaugleddau-cyllell-yn-yr-ysgol-er-mwyn-ei-dangos-i-ffrindiau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/news.godj.com\/news\/aberdaugleddau-cyllell-yn-yr-ysgol-er-mwyn-ei-dangos-i-ffrindiau\/","title":{"rendered":"Aberdaugleddau: Cyllell yn yr ysgol &#8216;er mwyn ei dangos i ffrindiau&#8217;"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Wrth ddisgrifio yr hyn mae e&#8217;n ei gofio o&#8217;r digwyddiad ar 5 Chwefror, dywedodd y bachgen fod Vicki Williams wedi sylwi ar rywbeth yn ei fag tra&#8217;n edrych dros ei waith, a&#8217;i bod wedi gofyn iddo i dynnu&#8217;r peth oddi yno.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae e&#8217;n dweud ei fod wedi tynnu&#8217;r gyllell o&#8217;i fag yn unol \u00e2 gorchymyn yr athrawes a bod y llafn yn pwyntio am i lawr.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Beth oedd ymateb Vicki Williams?,&#8221; gofynnodd ei fargyfreithiwr.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Mewn sioc, roedd ei cheg ar agor a&#8217;i llygaid yn llydan,&#8221; meddai.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae e&#8217;n gwadu &#8220;hyrddio&#8221; at yr athrawes gyda&#8217;r gyllell.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Fe ddywedodd hi, &#8216;dere \u00e2 honna i mi&#8217;,&#8221; meddai, &#8220;fe ddywedais i &#8216;na&#8217;.&#8221;<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Esboniodd ei fod wedi gwrthod rhoi&#8217;r gyllell iddi, gan nad oedd eisiau mynd i drwbl am ddod \u00e2 chyllell i&#8217;r ysgol.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd iddi wedyn gydio yn llafn y gyllell \u00e2&#8217;i ddwy law, a&#8217;i fod ef wedi ceisio mynd \u00e2&#8217;r gyllell oddi wrthi.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Roedd y gyllell yn mynd i bobman,&#8221; meddai.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae e&#8217;n gwadu gweld y gyllell yn cyffwrdd \u00e2&#8217;i phen ond yn derbyn fod hynny wedi digwydd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd fod yr athrawes yn ymladd ag ef am &#8216;tua 10 eiliad&#8217;, cyn iddi sgrechian.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Aeth popeth yn ormod, felly fe redais i allan,&#8221; meddai.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae e&#8217;n gwadu cynllunio yr ymosodiad ac yn dweud nad oedd hyn yn rywbeth yr oedd wedi dymuno i ddigwydd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae&#8217;r achos yn parhau.<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/erthyglau\/cwyl0lp0lylo?at_medium=RSS&#038;at_campaign=rss\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth ddisgrifio yr hyn mae e&#8217;n ei gofio o&#8217;r digwyddiad ar 5 Chwefror, dywedodd y bachgen fod Vicki Williams wedi sylwi ar rywbeth yn ei fag tra&#8217;n edrych dros ei waith, a&#8217;i bod wedi gofyn iddo i dynnu&#8217;r peth oddi yno. Mae e&#8217;n dweud ei fod wedi tynnu&#8217;r gyllell o&#8217;i fag yn unol \u00e2 gorchymyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":56571,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[50],"tags":[15954,5934,13828,15956,15955,5856],"class_list":["post-56570","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-wales","tag-aberdaugleddau","tag-cyllell","tag-dangos","tag-ffrindiau","tag-mwyn","tag-ysgol"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/56570","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=56570"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/56570\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":56572,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/56570\/revisions\/56572"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/56571"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=56570"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=56570"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=56570"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}