{"id":54917,"date":"2026-06-19T14:54:54","date_gmt":"2026-06-19T14:54:54","guid":{"rendered":"https:\/\/news.godj.com\/news\/cyfanswm-o-bron-i-140-o-flynyddoedd-o-garchar-yn-dilyn-terfysg-trelai\/"},"modified":"2026-06-19T14:54:54","modified_gmt":"2026-06-19T14:54:54","slug":"cyfanswm-o-bron-i-140-o-flynyddoedd-o-garchar-yn-dilyn-terfysg-trelai","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/news.godj.com\/news\/cyfanswm-o-bron-i-140-o-flynyddoedd-o-garchar-yn-dilyn-terfysg-trelai\/","title":{"rendered":"Cyfanswm o bron i 140 o flynyddoedd o garchar yn dilyn terfysg Trel\u00e1i"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Y deg olaf i gael eu dedfrydu ddydd Gwener am derfysg (<i class=\"ssrcss-xbdn93-ItalicText e5tfeyi2\">riot) <\/i>oedd:<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Connor O&#8217;Sullivan 27, o Gaerau \u2013 5 mlynedd<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Erbyn 21:47 roedd o ar flaen y dorf yn taflu nifer sylweddol o daflegrau tuag at yr heddlu gan gynnwys brics.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe waeddodd: &#8220;Dewch, dewch bois&#8221;, cyn taflu drws at swyddogion.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Aeth at ddyn oedd yn ffrydio&#8217;r terfysg yn fyw, ac fe&#8217;i clywyd yn dweud: &#8220;Ely Gang. Ely Gang.&#8221;<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Bu&#8217;n annog eraill i gymryd rhan ac fe geisiodd guddio&#8217;i wyneb.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd y llys yn gwbl dawel wrth iddo fynd i lawr o&#8217;r doc.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Callum O&#8217;Sullivan, 25, o Drelai \u2013 3 blynedd a 9 mis<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd yn bresennol ers dechrau&#8217;r digwyddiad, ac er ei fod yn gwylio ar y dechrau, fe ymunodd yn y trais gan daflu taflegrau.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe&#8217;i gwelwyd yn ddiweddarach yn mynd \u00e2 bag at griw oedd wedi cynnau t\u00e2n, a rhoi cynnwys y bag ar y t\u00e2n.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd yn ceisio cuddio&#8217;i wyneb gyda&#8217;i grys-T.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae&#8217;r barnwr yn dweud iddi ystyried ei anawsterau dysgu wrth gyflwyno&#8217;r ddedfryd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Lee-Martin McQuade, 30, o Drelai \u2013 6 blynedd 4 mis<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ar Heol Snowden, fe wnaeth McQuade sylwadau sarhaus at swyddogion.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe&#8217;i gwelwyd yn rhan o gr\u0175p fu&#8217;n paratoi bomiau petrol.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe gafodd un ei daflu tuag at yr heddlu a tharo PC Zoe Lea, a dechreuodd losgi ei dillad.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd wrth eraill i &#8220;godi brics&#8221; ac annog y dorf i ymosod ar yr heddlu.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mi ddywedodd wrth y dorf i &#8220;daro gorsaf heddlu Trel\u00e1i&#8221; gyda bomiau petrol a thargedu coesau swyddogion a bod angen cicio&#8217;u tariannau.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd yna ochneidiau o&#8217;r oriel gyhoeddus pan gafodd y ddedfryd ei chyhoeddi.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Tawelwch,&#8221; dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke, gan ychwanegu nad oedd unrhyw aelod o&#8217;r oriel gyhoeddus yn cael dod i&#8217;r llys yn gwisgo mwgwd &#8220;heb dystiolaeth feddygol i brofi bod ei angen.&#8221;<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Gemma Virgin, 45, o Drelai \u2013 3 blynedd ac 8 mis<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe daflodd y fam-gu sawl taflegryn at yr heddlu.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd hi&#8217;n gweiddi sylwadau sarhaus tuag at swyddogion.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe ddywedodd hi wedyn ei bod hi dan ddylanwad alcohol ar y pryd a&#8217;i bod hi wedi neidio ar y &#8220;<i class=\"ssrcss-xbdn93-ItalicText e5tfeyi2\">band wagon<\/i>.&#8221;<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe wnaeth aelod ifanc o&#8217;r oriel gyhoeddus adael yn ei dagrau wrth i Virgin fynd i lawr o&#8217;r doc.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Malaki McQuade, 19 o Drelai \u2013 6 blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd o&#8217;n 16 oed ar y pryd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ar y noson fe&#8217;i gwelwyd yn cerdded oddi wrth y dorf pan gafodd y botel gyntaf ei thaflu.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Erbyn 21:00 roedd wedi gorchuddio&#8217;i wyneb gyda balaclafa, ac fe helpodd eraill i guddio&#8217;u hwynebau hefyd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe daflodd ddau daflegryn tuag at swyddogion.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fo oedd un o&#8217;r gr\u0175p a drodd gar ei do.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe gafodd ei ddedfrydu hefyd am drywanu merch dair gwaith mewn digwyddiad ar wah\u00e2n, ar ei ben-blwydd yn 17 oed, ac am werthu a dosbarthu cyffuriau gan gynnwys coc\u00ean a heroin.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae&#8217;r barnwr wedi&#8217;i ddedfrydu am yr holl droseddau.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Gan ei fod wedi cyflawni troseddau pellach tra&#8217;i fod ar fechn\u00efaeth am ei ran yn y terfysg, mae&#8217;i ddedfryd yn uwch.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd ei fam yn ei dagrau wrth glywed hyd y ddedfryd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Liam Black, 21, o Drelai \u2013 6 blynedd 9 mis<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe daflodd nifer o daflegrau a phaled pren at yr heddlu.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ar \u00f4l gwneud hynny fe aeth i&#8217;w n\u00f4l er mwyn ei daflu eto.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe daniodd d\u00e2n gwyllt tuag at swyddogion, ac fe daflodd ddarn o bren oedd yn llosgi tuag atyn nhw.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe fu yn ffilmio car yn cael ei droi ar ei ochr.<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/cr5j8pv2l8do?at_medium=RSS&#038;at_campaign=rss\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y deg olaf i gael eu dedfrydu ddydd Gwener am derfysg (riot) oedd: Connor O&#8217;Sullivan 27, o Gaerau \u2013 5 mlynedd Erbyn 21:47 roedd o ar flaen y dorf yn taflu nifer sylweddol o daflegrau tuag at yr heddlu gan gynnwys brics. Fe waeddodd: &#8220;Dewch, dewch bois&#8221;, cyn taflu drws at swyddogion. Aeth at ddyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":54918,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[50],"tags":[6919,15633,7155,15634,15635,15636,15616],"class_list":["post-54917","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-wales","tag-bron","tag-cyfanswm","tag-dilyn","tag-flynyddoedd","tag-garchar","tag-terfysg","tag-trelai"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/54917","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=54917"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/54917\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":54919,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/54917\/revisions\/54919"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/54918"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=54917"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=54917"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=54917"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}