{"id":52754,"date":"2026-05-17T14:06:27","date_gmt":"2026-05-17T14:06:27","guid":{"rendered":"https:\/\/news.godj.com\/news\/trydedd-llwy-bren-yn-olynol-i-gymru-yn-chwe-gwlad-y-merched\/"},"modified":"2026-05-17T14:06:27","modified_gmt":"2026-05-17T14:06:27","slug":"trydedd-llwy-bren-yn-olynol-i-gymru-yn-chwe-gwlad-y-merched","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/news.godj.com\/news\/trydedd-llwy-bren-yn-olynol-i-gymru-yn-chwe-gwlad-y-merched\/","title":{"rendered":"Trydedd llwy bren yn olynol i Gymru yn Chwe Gwlad y Merched"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe gafodd yr ymwelwyr y dechrau gorau bosib o fewn munudau o&#8217;r chwiban gyntaf wedi cais Vittoria Ostuni Minuzzi.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Daeth Courtney Keight \u00e2 Chymru&#8217;n gyfartal yn weddol fuan, ond i Francesca Granzotto dirio eto bron yn syth.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Unwaith eto daeth Cymru&#8217;n gyfartal, er bod amheuaeth bod Carys Cox wedi gollwng y b\u00eal wrth groesi&#8217;r llinell.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Daeth trydydd cais yr Eidalwyr o&#8217;r prynhawn, gan Alyssa D&#8217;Inca.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Eto i gyd, Cymru oedd ar y blaen ar yr egwyl &#8211; o 19 i 17 &#8211; wedi cais gan Kelsey Jones a chicio cywir Keira Bevan.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Newidiodd hynny yn fuan wedi dechrau&#8217;r ail hanner pan diriodd Francesca Sgorbini, Minuzzi am yr eildro wrth i Gymru ildio sawl cic gosb.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Roedd yna lygedyn o obaith o allu manteisio ar y ffaith bod Yr Eidal un chwaraewr yn brin am gyfnod, pan gafodd Granzotto ei hel o&#8217;r maes dros dacl peryglus ar Seren Singleton.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ond ofer oedd y gobeithion hynny &#8211; fe sgoriodd Veronica Madia yn ei habsenoldeb cyn i D&#8217;Inca dirio am yr eildro.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Gyda munud yn unig ar y cloc, fe sgoriodd Kayleigh Powell bedwaredd cais Cymru i sicrhau pwynt bonws, ond roedd hynny&#8217;n fawr o gysur wrth i&#8217;r ymwelwyr eu trechu&#8217;n gymharol hawdd yn y pen draw.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Golyga&#8217;r canlyniad bod Cymru wedi colli 10 g\u00eam Chwe Gwlad o&#8217;r bron.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Dywedodd y capten, Bethan Lewis ei fod &#8220;yn ganlyniad hynod anodd, ond gallwn ni ddim beio neb heb law ein hunain heddiw&#8221;.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ychwanegodd: &#8220;Mae gyda ni waith meddwl anodd i&#8217;w wneud nawr&#8230; Os rydym yn rhoi&#8217;r b\u00eal i ffwrdd ac ildio ciciau cosb, rydym yn si\u0175r o dalu&#8217;r pris.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/cq5p00n69d2o?at_medium=RSS&#038;at_campaign=rss\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fe gafodd yr ymwelwyr y dechrau gorau bosib o fewn munudau o&#8217;r chwiban gyntaf wedi cais Vittoria Ostuni Minuzzi. Daeth Courtney Keight \u00e2 Chymru&#8217;n gyfartal yn weddol fuan, ond i Francesca Granzotto dirio eto bron yn syth. Unwaith eto daeth Cymru&#8217;n gyfartal, er bod amheuaeth bod Carys Cox wedi gollwng y b\u00eal wrth groesi&#8217;r llinell. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":52755,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[50],"tags":[15123,1082,1083,10445,15122,15125,15124,15121],"class_list":["post-52754","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-wales","tag-bren","tag-chwe","tag-gwlad","tag-gymru","tag-llwy","tag-merched","tag-olynol","tag-trydedd"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/52754","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=52754"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/52754\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":52756,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/52754\/revisions\/52756"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/52755"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=52754"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=52754"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=52754"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}