{"id":51095,"date":"2026-04-22T12:43:26","date_gmt":"2026-04-22T12:43:26","guid":{"rendered":"https:\/\/news.godj.com\/news\/trafodaethau-rhwng-caerdydd-a-pherchnogion-y-gweilch-wedi-dymchwel\/"},"modified":"2026-04-22T12:43:26","modified_gmt":"2026-04-22T12:43:26","slug":"trafodaethau-rhwng-caerdydd-a-pherchnogion-y-gweilch-wedi-dymchwel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/news.godj.com\/news\/trafodaethau-rhwng-caerdydd-a-pherchnogion-y-gweilch-wedi-dymchwel\/","title":{"rendered":"Trafodaethau rhwng Caerdydd a pherchnogion y Gweilch wedi dymchwel"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\"><b class=\"ssrcss-1xjjfut-BoldText e5tfeyi3\">Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dweud na fydd perchnogion y Gweilch nawr yn prynu rhanbarth Caerdydd gyda&#8217;r trafodaethau wedi dod i ben heb gytundeb.<\/b><\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe gadarnhaodd URC ym mis Ionawr 2026 eu bod mewn cyfnod cyfyngedig i gynnal trafodaethau \u00e2 pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport &amp; Media, i drafod y posibilrwydd ohonyn nhw&#8217;n prynu Rygbi Caerdydd.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Fe ddaeth y cyfnod yna i ben ym mis Mawrth ond cafodd ei ymestyn 30 o ddiwrnodau ychwanegol &#8211; tan ddydd Mercher, 22 Ebrill.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Erbyn hyn mae URC ac Y11 wedi &#8220;cytuno ar y cyd y byddai perchnogion y Gweilch yn tynnu yn \u00f4l o&#8217;r broses&#8221; a hynny ar \u00f4l &#8220;trafodaethau adeiladol&#8221; ac mi fydd Caerdydd yn parhau dan berchnogaeth URC.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Does dim manylion wedi cael eu rhannu ynglyn \u00e2 pham ddaeth y trafodaethau i ben, gyda phrif weithredwr URC, Abi Tierney, ond yn cadarnhau y byddai Caerdydd yn parhau i fod dan berchnogaeth y corff llywodraethu am y tro.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Y11 cyflwynodd y cynnig gorau i brynu Caerdydd ond mae URC wedi dod i&#8217;r casgliad y byddai er budd gorau rygbi Cymru petai Caerdydd yn aros dan ein perchnogaeth am y tro,&#8221; meddai Tierney.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8220;Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i Y11 am y proffesiynoldeb a&#8217;r ymrwymiad i rygbi Cymru y maen nhw wedi&#8217;i ddangos drwy gydol y broses hon.&#8221;<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/cx2ezzvze9po?at_medium=RSS&#038;at_campaign=rss\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dweud na fydd perchnogion y Gweilch nawr yn prynu rhanbarth Caerdydd gyda&#8217;r trafodaethau wedi dod i ben heb gytundeb. Fe gadarnhaodd URC ym mis Ionawr 2026 eu bod mewn cyfnod cyfyngedig i gynnal trafodaethau \u00e2 pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport &amp; Media, i drafod y posibilrwydd ohonyn nhw&#8217;n prynu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":51096,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[50],"tags":[8288,14754,14753,14752,9726,14751,990],"class_list":["post-51095","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-wales","tag-caerdydd","tag-dymchwel","tag-gweilch","tag-pherchnogion","tag-rhwng","tag-trafodaethau","tag-wedi"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/51095","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=51095"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/51095\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":51097,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/51095\/revisions\/51097"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/51096"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=51095"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=51095"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=51095"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}