{"id":32291,"date":"2025-07-04T13:00:28","date_gmt":"2025-07-04T13:00:28","guid":{"rendered":"https:\/\/news.godj.com\/news\/y-gwerth-mawr-mewn-gwlan-defaid\/"},"modified":"2025-07-04T13:00:28","modified_gmt":"2025-07-04T13:00:28","slug":"y-gwerth-mawr-mewn-gwlan-defaid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/news.godj.com\/news\/y-gwerth-mawr-mewn-gwlan-defaid\/","title":{"rendered":"&#8216;Y gwerth mawr mewn gwl\u00e2n defaid&#8217;"},"content":{"rendered":"<p> <br \/>\n<\/p>\n<div>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Mae&#8217;n adeg pryderus iawn i ffarmio. Mae yna gymaint o newidiadau r\u0175an yn y maes, a gymaint o elfennau amgylcheddol wedi dod i mewn iddi. Mae&#8217;n stori hollol wahanol i sut fuodd hi.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Oedd hi&#8217;n ffarm hen ffasiwn i gychwyn hefo, felly ychydig iawn o wrtaith, doedd y tir ddim wedi cael ei droi. Oedd o wir yn hen ffasiwn, gyda dim ond y defaid yma. Y broblem fwyaf efo defaid ydy sut i&#8217;w trin nhw, ac yn aml iawn maen nhw angen lot o gemegau, maen nhw angen lot o&#8217;r dosus yma yn enwedig ar \u00f4l cyfnodau hir, gwlyb, lle mae ffliwc yn medru bod yn broblem.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ein blaenoriaeth ni ydy edrych ar \u00f4l y tir, edrych ar \u00f4l y pridd, adeiladu&#8217;r pridd a chael fwy o fioamrywiaeth.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Felly, &#8216;da ni ond yn gwneud beth sydd yn siwtio ni a&#8217;n ffarm ni. Dwi&#8217;n ffeindio gwerth mawr mewn gwl\u00e2n defaid. Yn hytrach na gyrru&#8217;r gwl\u00e2n i&#8217;r bwrdd gwl\u00e2n, &#8216;da ni&#8217;n cadw&#8217;r gwl\u00e2n a&#8217;n defnyddio&#8217;r gwl\u00e2n fel <i class=\"ssrcss-xbdn93-ItalicText e5tfeyi2\">mulch<\/i> o gwmpas coed. Pan &#8216;da ni&#8217;n plannu coed, &#8216;da ni&#8217;n defnyddio fo ar gyfer hwnnw.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Ac wedyn, mae &#8216;na ffenest i werthu&#8217;r gwl\u00e2n hefyd i bobl sydd yn hoffi garddio. Mae o&#8217;n andros o ddeunydd defnyddiol.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">&#8216;Da ni&#8217;n plannu coed mewn ffurf gwrychoedd rhan fwyaf, ond mi fyddwn ni eisio plannu mwy o goed. &#8216;Da ni mor uchel i fyny ac mae cysgod gan y coed yn werthfawr i ni. <\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">A &#8216;da ni&#8217;n defnyddio&#8217;r gwl\u00e2n pan &#8216;da ni wedi plannu&#8217;r coed am nifer o resymau wir. Yn un peth, mae o&#8217;n cadw&#8217;r tir yn damp o dan y coed. Os oes yna adegau sych, mae&#8217;r coed ifanc yn medru byw yn iawn achos mae digon o dd\u0175r wedi cael ei ddal yn y tir. Mae&#8217;r gwl\u00e2n yn torri lawr ac yn wrtaith naturiol bendigedig mewn blwyddyn neu ddwy, felly yn bwydo&#8217;r goeden fel mae&#8217;n tyfu.<\/p>\n<p class=\"ssrcss-1q0x1qg-Paragraph e1jhz7w10\">Pan mae&#8217;r adar bach yn dod i nythu, maen nhw&#8217;n medru defnyddio&#8217;r gwl\u00e2n. Ac y peth mwyaf difyr hefyd ydy, o dan y gwl\u00e2n mae&#8217;n bosib gweld tyllau bach ac hoel <i class=\"ssrcss-xbdn93-ItalicText e5tfeyi2\">voles <\/i>ydy rheiny. Mae o&#8217;n rhoi cartref i&#8217;r rheiny ac wrth reswm, lle bynnag mae&#8217;r rheiny&#8217;n dod, dydy&#8217;r dylluan ddim yn bell ar eu holau nhw. Ac mae o jest yn ychwanegu at gylch bywyd ar y ffarm.<\/p>\n<\/div>\n<p><br \/>\n<br \/><a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/cymrufyw\/erthyglau\/c1ljedyjr30o\">Source link <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;n adeg pryderus iawn i ffarmio. Mae yna gymaint o newidiadau r\u0175an yn y maes, a gymaint o elfennau amgylcheddol wedi dod i mewn iddi. Mae&#8217;n stori hollol wahanol i sut fuodd hi. Oedd hi&#8217;n ffarm hen ffasiwn i gychwyn hefo, felly ychydig iawn o wrtaith, doedd y tir ddim wedi cael ei droi. Oedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":32292,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[50],"tags":[10817,10814,10816,10815,6279],"class_list":["post-32291","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-wales","tag-defaid","tag-gwerth","tag-gwlan","tag-mawr","tag-mewn"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/32291","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=32291"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/32291\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":32293,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/32291\/revisions\/32293"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media\/32292"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=32291"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=32291"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/news.godj.com\/news\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=32291"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}