Mae tri dyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Abertwe yn dilyn ymosodiad ar ddyn ger Llanybydder, Sir Gaerfyrddin dydd Llun, 26 Awst.
Mae’r tri dyn wedi’u cyhuddo o niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac un cyhuddiad o herwgipio.
Cafodd person ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau yn dilyn yr ymosodiad, ond mae bellach wedi cael mynd adref ar ôl cael triniaeth.
Siaradodd Mohammad Comrie, 22 oed o Leeds, Faiz Shah 22 oed o Bradford, ac Elijah Ogunnubi-Sime Wallington, 20 oed, i gadarnhau eu henwau llawn, dyddiadau geni a chyfeiriadau yn unig.
Mae’r tri dyn wedi’u cadw yn y ddalfa, ac maen nhw i fod i ymddangos ar gyfer gwrandawiad paratoadol cyn treial yn Llys y Goron Abertawe am 9am ar 30Fedi.

















































