Roedd Mr Roberts – un o gyfarwyddwyr artistig Ysgol Glanaethwy – yn y Pafiliwn pan ddaeth y cyhoeddiad fod y Fedal Ddrama wedi’i ganslo.
“Oedd yr awyrgylch yn od iawn yna, fel ‘sa ni’n profi rhyw dalp o hanes, ond eto dim math o eglurhad,” meddai ar Dros Frecwast.
“Gwacter o’n i’n deimlo’n fwyaf, siom yn amlwg, ond dwi’n meddwl fel oedd yr amser yn mynd yn ei flaen fod pawb yn teimlo dryswch.”
Dywedodd fod angen mwy o wybodaeth gan yr Eisteddfod am y penderfyniad.
“Yn y datganiad wnaethon nhw, oedd o’n teimlo fel bod nhw am adolygu’r broses o gystadlu yn llwyr o hyn ymlaen yn yr adran lenyddol.
“‘Swn i’n tybio fod ‘na rai pobl erbyn hyn ar ganol creu [ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf] a ddim yn siŵr iawn be sy’n mynd i ddigwydd i’r ochr llenyddol o’r Steddfod.
“Dyna ma’ pobl angen ei wybod fwy na dim.”














































