Mae pobl sy’n byw ger yr Afon Taf wedi cael cyngor i gadw drysau a ffenestri ar gau oherwydd gollyngiad cerosîn sydd wedi llygru’r afon.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y llygredd yn effeithio ar bron ddwy filltir a hanner o’r afon, gan gynnwys ardaloedd Nantgarw, Trefforest, Glan-y-Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais.
Doedd CNC ddim am gadarnhau lleoliad tarddiad y gollyngiad hyd nes diwedd eu hymchwiliad, ond mae cwmni lleol, GE Aerospace wedi cadarnhau ei fod wedi digwydd yn ystod gwaith cynnal a chadw ar y safle.
Ychwangodd llefarydd y cwmni eu bod yn helpu CNC a swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy’n rhoi cymorth gydag offer arbenigol i leihau maint y cerosîn sy’n cyrraedd yr afon.
Ers dod o hyd i darddiad y llygredd am 19:30 nos Wener, mae swyddogion CNC yn ceisio cadarnhau sut y cyrhaeddodd y system ddraenio.
Mae “camau wedi eu cymryd i leihau’n sylweddol maint y llygredd sy’n cyrraedd yr isafon, tra bod gwaith ymchwilio’n mynd yn ei flaen i geisio atal y llygredd yn llwyr”.
Mae swyddogion hefyd yn cymryd samplau er mwyn cadarnhau “union effaith amgylcheddol y gollyngiad”.














































