Ychwanegodd Millar: “Felly fy neges i Rhun ap Iorweth heddiw ydy – i fwrw ymlaen gyda’r llywodraethu.
“Fe ddywedodd wrth bleidleiswyr fis Mai na wnelo etholiad y Senedd ag annibyniaeth.
“Naill ai na dderbyniodd ei femorandwm ei hun, neu fe ddewisodd i dwyllo pobl yn fwriadol.”
Disgrifiodd Mr Millar y DU fel rhywbeth sy’n “fwy na threfniant gwleidyddol”, gan ddweud bod pob gwlad wedi helpu i ddatblygu diwydiannau, diddymu’r fasnach gaethwasiaeth, rhyddhau Ewrop a llunio’r byd modern.
“Rydyn ni’n deulu o genhedloedd. Ers canrifoedd, mae pobl Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi byw, gweithio a masnachu gyda’i gilydd.
“Wrth gwrs, mae rhai ar yr adain dde’n dweud y dylen ni ymddiheuro neu deimlo cywilydd am ein hanes.
“Ond dwi’n dweud ei fod yn etifeddiaeth y dylen ni fod yn falch ohoni, ac y dylen ni ei defnyddio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.”















































