Ar drydydd diwrnod y gwrandawiad fe ddaeth y pwyllgor disgyblu i gasgliad fod y cyhuddiad ei fod wedi meddwi tra’n gyfrifol am ddisgyblion yn gywir.
Fe wnaethon nhw hefyd ddod i gasgliad bod yr honiad i Mr Rowcliffe daro disgybl A ar draws y frest gan adael marc coch yn gywir er i Mr Rowcliffe wadu iddo wneud hynny.
Cafodd y cyhuddiad iddo ddefnyddio iaith gref a rhegi ar noson y digwydd ei brofi yn gywir – gydag un disgybl wrth roi tystiolaeth yn honni iddo ddweud “F off yn uchel iawn” wrth Mr Martin Edwards, yr athro arall.
Cafodd y cyhuddiad iddo godi ei fys canol at yr athro arall hefyd ei brofi’n gywir.
Cafodd Mr Rowcliffe hefyd ei gyhuddo o ofyn i ddisgybl A gadw’r digwyddiad yn gyfrinach. Yn dilyn tystiolaeth, fe ddaeth y pwyllgor i’r casgliad nad oedd hyn wedi ei brofi.
Fe ddaeth y pwyllgor i’r casgliad felly ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol oherwydd canfyddiadau’r cyhuddiadau ac nad oedd yn cyrraedd ymddygiad disgwyliedig ei swydd.
Wrth bwyso a mesur y dystiolaeth gerbron y pwyllgor, fe ddaethon nhw i’r penderfyniad i wahardd Shôn Rowcliffe rhag dysgu am ddwy flynedd.
Gobaith y panel oedd y bydd modd i Mr Rowcliffe adlewyrchu ar ei weithredoedd yn ystod y ddwy flynedd.
Mae gan Mr Rowcliffe yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad ger bron yr Uchel Lys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.















































