Y rhestr fer:
Trwy greu gardd gymunedol a bywyd gwyllt ym Mharc y Betws a sefydlu grŵp gwirfoddolwyr “Ffrindiau Betws”, mae Ted wedi trawsnewid hen gyrtiau tenis a thir a oedd wedi’i esgeuluso yn ofod hardd sy’n cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi bob dydd gan y gymuned.
Mae ei waith wedi gwneud llawer mwy na gwella’r amgylchedd leol. Mae Ted wedi adeiladu ymdeimlad cryf o gymuned, gan gynnwys ysgolion lleol fel Ysgol Betws, Ysgol Dyffryn Aman a Choleg Sir Gâr mewn gweithgareddau garddio sy’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae hefyd wedi gweithio gyda busnesau lleol i hyrwyddo arferion garddio cynaliadwy, gan gryfhau cysylltiadau ar draws y gymuned.
Drwy ei garedigrwydd, ei gyfeillgarwch a’i frwdfrydedd heintus, mae Ted wedi dod dod â phobl o’r un anian ynghyd. Mae ei waith wedi troi blerwch a chwyn yn hafan i fywyd gwyllt ac yn ganolbwynt cymunedol ffyniannus, gan adael etifeddiaeth barhaol i’r ardal a’r bobl sy’n byw ynddi.
Beirniad y wobr hon oedd yr ecolegydd ac ymgyrchydd natur, Joe Wilkins.
Llongyfarchiadau mawr i’r holl enwebeion ac enillwyr. Gallwch ddarllen mwy am y bobl sy’n gwneud gwahaniaeth ar Cymru Fyw a BBC Radio Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
















































