Mewn cyfweliad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Tom Jones fod y penderfyniad i brynu safle parhaol i’r sioe ‘nôl yn y 1970au wedi bod yn weledigaeth amhrisiadwy.
Esboniodd fod y maes ar gael nid yn unig i’r Primin, ond ar gyfer digwyddiadau eraill hefyd – fel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.
“Mi oedd Eisteddfod yr Urdd yma yn ddiweddar ac roedd yr ymwelwyr yn gweld gwerth safle fel hyn i ddigwyddiad mawr,” meddai.
“Mae’n rhaid i chi wneud y sioe yn ddeniadol i bobl y tu allan i’r diwydiant. Ar ddiwedd y dydd sioe amaethyddol ydi hi.
“Wrth gwrs ma’ pobl tu allan i’r diwydiant yn mwynhau gweld anifeiliaid, ond oherwydd y safle mi ydan ni’n gallu rhoi digwyddiadau y tu allan i amserlen y sioe.
“Ychydig wythnosau nôl roedd ‘na ddigwyddiad mawr efo pobl yn cadw cŵn – mae’n rhaid i’r gymdeithas barhau i ddatblygu gwneud hynny, sydd y tu allan i orchwyl amaethyddiaeth, ond wedyn yn ffynhonnell incwm i’r safle er mwyn datblygu.”














































