Dywedodd teulu Mr James mewn datganiad mai ef oedd calon y teulu a bod pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu.
“Roedd yn fab, ŵyr, brawd, partner, tad, ewythr a ffrind ffyddlon ac fe gafodd ei garedigrwydd effaith ar fywydau cymaint o bobl.
“Roedd ganddo ddawn naturiol i ddod â phobl ynghyd a byddai’n creu argraff ar bawb oedd â’r fraint o’i adnabod.
“Mae’n calonnau wedi torri. Nid oes geiriau all fynegi’r boen rydyn ni’n ei deimlo na chwaith y gwagle enfawr yn ein bywydau.
“Byddwn yn trysori’r amser gawsom ni gyda Scot a bydd wastad yn agos at ein calonnau… ‘nawn ni fyth ei anghofio.”
Ychwanegodd y teulu eu bod yn ddiolchgar o’r holl garedigrwydd a chefnogaeth y maen nhw wedi ei dderbyn wedi’r digwyddiad a’u bod yn gofyn i bobl barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.















































