Dywedodd ei fod yn siarad â hi yn gwrtais pan ddaeth i mewn i’r ystafell.
“Doedd e ddim yn flin,” meddai.
“Roeddwn i’n teimlo fod rhywbeth ddim yn iawn oherwydd ei fod yn ceisio dod y tu ôl i mi. Gofynnais dwywaith neu dair “wyt ti’n iawn, wyt ti’n siŵr dy fod yn iawn?”, dyna pryd ddaeth amdana i.
“Fe drywanodd fy mhen i, roedd e’n ceisio fy lladd i,” meddai.
Wrth ddisgrifio’r digwyddiad, dywedodd iddi orfod cael ei phen wedi ei ludo yn yr ysbyty, ei fod yn gwaedu a bod talp o wallt wedi dod allan o’i phen.
“Gan wybod fod y gyllell wedi taro fi yn fy mhen, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n mynd i waedu i farwolaeth, roeddwn i’n meddwl fy mod wedi gweld fy merch am y tro olaf,” meddai.
Wrth geisio disgrifio pam fod y bachgen wedi ymosod arni dywedodd “doedd dim rheswm, rwy’n ei gweld hi’n anodd i ddeall pam’ a bod hynny yn ‘codi ofn’ arni”.
Mae’r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.















































