Er bod addysg yn faes sydd wedi’i ddatganoli yng Nghymru, dywedodd Mr Woodhead mewn llythyr at ysgrifennydd addysg llywodraeth y DU fis diwethaf nad ydy’r “cynnydd mewn costau a’r refeniw coll sydd wedi arwain yr ysgol hon at bron orfod cau yn faterion datganoledig”.
Ychwanegodd fod cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraddau busnes yn ffactorau eraill sydd wedi cynyddu costau.
Dywedodd maer y dref, y Cynghorydd Handel Davies, fod y pwysau sy’n wynebu’r coleg yn codi “pryderon enfawr” i’r dref.
“Mae’n sefyllfa drist iawn. Byddai’n cael effaith ddinistriol ar y dref a’i busnesau pe bai’n cau,” meddai.
“Mae’r dref yn amgylchynu’r coleg – dyma galon y dref.”
Fel llywydd Clwb Rygbi Llanymddyfri, dywedodd ei fod yn poeni am ddyfodol rygbi hefyd, yn y dref sy’n cael ei chydnabod fel un o fannau geni’r gêm.
Dywedodd yr AS Plaid Cymru lleol, Ann Davies, ei bod hi’n “drist” o glywed am drafferthion y coleg.
“Ers cenedlaethau, mae’r Coleg wedi bod yn rhan bwysig o wead ein cymuned leol, gan addysgu pobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn ogystal â chyflogi cannoedd o bobl leol,” meddai.
“Mae ei gyfraniad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.”














































