Yn ôl Mr ap Gwynfor, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflawni cynllun gweithlu er mwyn cadw graddedigion meddygol yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn awyddus i ddelio â’r mater o swyddi i raddedigion ac fe fydd uwchgynhadledd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach ym mis Mehefin i “ddatrys y broblem tymor byr gyda’r rheini sydd ddim yn gallu ffeindio gwaith”.
Mae’r graddedigion meddygol am fod “yn weithwyr holl bwysig i’r gwasanaeth iechyd”.
“Mae’r sefyllfa yn un gwbl anfoddhaol.
“Dyle ni ddim fod wedi ffeindio ein hunain ynddi i ddechrau.” Esboniodd y daw hyn o ganlyniad i “benderfyniadau a wnaed yn ôl yn 2022 ac felly mae’n mynd i gymryd amser i hynna weithio trwy’r system oherwydd ddaru’r llefydd yma gael eu comisiynu bryd hynny,” meddai.
Mae angen “gwneud yn siŵr nad ydyn ni’n ffeindio ein hunain yn y sefyllfa fel yma yn y dyfodol trwy ddatblygu cynllun gweithlu amgenach er mwyn gwneud yn siŵr bod ni’n ateb y problemau yma”.
Fel rhan o becyn ehangach i feddygon teulu dywedodd Mr ap Gwynfor wrth Newyddion S4C fod y llywodraeth am gyflwyno 100 o feddygon teulu wedi eu cyflogi gan GIG i weithredu “yn yr ardaloedd lle ma’r problemau mwyaf acute er mwyn tynnu pwysau oddi ar y meddygon yno ac oddi ar yr adrannau brys.”
“Mi fydd pobl yn cael eu gweld yn gynt a fod pobl yn cael triniaeth ynghynt.”
“Byddwn yn cynnig cefnogaeth i feddygfeydd sydd angen cefnogaeth er mwyn datblygu eu lleoliadau nhw i ddenu mwy o feddygon teulu.”

















































