Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dyddio ‘nôl i’r chweched ganrif.
Wedi’i lleoli yn ninas leiaf Prydain, mae’n denu tua 300,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Ond er gwaethaf ei hanes cyfoethog, mae adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi ers ymweliad y llynedd, yn tynnu sylw at bryderon gwirioneddol ynghylch ei dyfodol.
Yn ôl yr adroddiad ymweld, sefyllfa ariannol y Gadeirlan oedd “yr her fwyaf critigol” a gafodd ei amlygu yn ystod yr ymweliad.
Mae’n dweud bod angen cynllunio a rheolaeth ariannol “gadarn” a “disgybledig” neu fel arall mae gallu’r Eglwys Gadeiriol i gynnal ei rôl “mewn perygl”.
Mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio’r sefyllfa ariannol bresennol fel un “anghynaladwy”, lle mae “diffygion digyfyngiad wedi parhau ers saith mlynedd” sy’n golygu bod y cronfeydd wrth gefn yn “beryglus o isel”, gan adael y Gadeirlan yn agored i unrhyw gostau annisgwyl.
Mae’r adroddiad yn rhybuddio y gallai’r holl heriau hyn, yn ogystal â cholli cefnogaeth esgobaethol, arwain at y Gadeirlan i fynd yn fethdalwr o fewn dwy flynedd.
Mae’r ymweliad hefyd wedi tynnu sylw at sawl maes lle mae angen cryfhau arfer a diwylliant ar frys o ran diogelu.
















































