Dywedodd AS Reform ar gyfer etholaeth Bangor Conwy Môn, Helen Jenner, bod “rhywbeth angen digwydd” i ddatrys y broblem, gan ychwanegu y byddai’n bersonol o blaid trydedd bont.
“Gafodd y bont ei chau am y tro cyntaf rhyw dair blynedd a hanner yn ôl, a mae’n rhaid bod nhw wedi gwario gymaint arna fo i drio atgyweirio be’ sy’ angen arna fo, ond ma’ pobl leol yn meddwl bod dim byd wedi gwella.
“Mae’n ffaith bod pethau wedi mynd yn waeth.
“Mae Rhun ap Iorwerth, sydd wrth gwrs rŵan yn brif weinidog, wedi sôn bod o’n ffeindio’r sefyllfa yn hynod o frustrating pan oedd o’n wrthblaid i Lafur, so gobeithio rŵan bod hynny am fod yn flaenoriaeth fawr iddo fo.
“Mae ‘na sôn am drydedd bont. I fi yn bersonol – dydi o ddim ym maniffesto nac yn bolisi Reform – dwi’n meddwl y bysa trydedd bont yn gwneud synnwyr.
“Dydi pobl ddim isio eistedd mewn traffig am 40 munud yn dod i’r ynys – mae o jyst yn mynd i roi pobl off dod, so mae rhywbeth angen digwydd.”

















































