O furluniau, mosaigau, i bantomeim, barddoniaeth a ffotograffiaeth; mae Bywydau Creadigol yn dathlu creadigrwydd bob dydd grwpiau o fewn cymunedau.
Yn ôl Dr Catrin Jones, Clerc Cyngor Tref Cricieth, mae grŵp Cricieth Creadigol wedi dod â phobl o bob oed at ei gilydd, ac wedi gwella’r dref ar gyfer pobol leol a thwristiaid.
Dywedodd: “I anrhydeddu ein gorffennol a’n presennol, mae gwneuthurwyr ffilm, llawer o baent, celf a chrefft, a garddio wedi cael eu defnyddio i gyfoethogi bywiogrwydd y gymuned tra ar yr un pryd yn gwella ansawdd bywyd i drigolion ac ymwelwyr, yn ogystal â lledaenu negeseuon cariad, tosturi a chynhwysiant.
“Ymhlith y prosiectau cyffrous niferus rydyn ni wedi’u cwblhau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae gweithiau creadigol i sicrhau bod yr ardal yn edrych yn ddisglair a chroesawgar ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023, murlun, llyfr a ffilm.”














































