Fe gafodd yr ymwelwyr y dechrau gorau bosib o fewn munudau o’r chwiban gyntaf wedi cais Vittoria Ostuni Minuzzi.
Daeth Courtney Keight â Chymru’n gyfartal yn weddol fuan, ond i Francesca Granzotto dirio eto bron yn syth.
Unwaith eto daeth Cymru’n gyfartal, er bod amheuaeth bod Carys Cox wedi gollwng y bêl wrth groesi’r llinell.
Daeth trydydd cais yr Eidalwyr o’r prynhawn, gan Alyssa D’Inca.
Eto i gyd, Cymru oedd ar y blaen ar yr egwyl – o 19 i 17 – wedi cais gan Kelsey Jones a chicio cywir Keira Bevan.
Newidiodd hynny yn fuan wedi dechrau’r ail hanner pan diriodd Francesca Sgorbini, Minuzzi am yr eildro wrth i Gymru ildio sawl cic gosb.
Roedd yna lygedyn o obaith o allu manteisio ar y ffaith bod Yr Eidal un chwaraewr yn brin am gyfnod, pan gafodd Granzotto ei hel o’r maes dros dacl peryglus ar Seren Singleton.
Ond ofer oedd y gobeithion hynny – fe sgoriodd Veronica Madia yn ei habsenoldeb cyn i D’Inca dirio am yr eildro.
Gyda munud yn unig ar y cloc, fe sgoriodd Kayleigh Powell bedwaredd cais Cymru i sicrhau pwynt bonws, ond roedd hynny’n fawr o gysur wrth i’r ymwelwyr eu trechu’n gymharol hawdd yn y pen draw.
Golyga’r canlyniad bod Cymru wedi colli 10 gêm Chwe Gwlad o’r bron.
Dywedodd y capten, Bethan Lewis ei fod “yn ganlyniad hynod anodd, ond gallwn ni ddim beio neb heb law ein hunain heddiw”.
Ychwanegodd: “Mae gyda ni waith meddwl anodd i’w wneud nawr… Os rydym yn rhoi’r bêl i ffwrdd ac ildio ciciau cosb, rydym yn siŵr o dalu’r pris.”


















































