Dywedodd David Jenkins, 50, ei fod yn “grac” ac yn “ofidus” am yr hyn ddigwyddodd.
“Mae’n rhaid i ni adael darn o dir chwech neu 12 metr ar ymyl y cae,” meddai Jenkins, sydd wedi bod yn ffermwr tenant i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers dros 15 mlynedd.
“Pan chi’n gwasgaru gwrtaith, does dim modd ei atal rhag gwasgaru heibio’r marc chwe metr.
“Gyda slyri mae’n haws, ond dwi wedi dweud [wrth CNC] y byddai well gen i adael y caeau yma yn lle eu ffermio, ond maen nhw’n dweud wrtha i fod yn rhaid i mi ffermio nhw.
“Dwi’n colli arian yn ffermio’r darn bach yma o dir. Dwi’n cael dim byd yn ôl.”
Dywedodd Jenkins ei fod wedi chwilio am gymorth gan elusen iechyd meddwl Sefydliad DPJ i ddelio â’r straen a achoswyd gan yr erlyniad.
“Dwi wedi gorfod cael cwnsela i ddelio ag e,” meddai.

















































