Mae’r cyflwynydd Aled Hughes wedi cyhoeddi enwau’r tri awdur ifanc sydd wedi dod yn fuddugol yn ei gystadleuaeth ysgrifennu stori ar BBC Radio Cymru.
Mae’r artistiaid Bethan Mai, Sian Angharad a Lleucu Gwenllian wedi creu cloriau ar gyfer straeon y tri enillydd sef Gweni o Ysgol Pentrefoelas, Llew o Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth, a Sofia o Ysgol Glantaf.
Beirniad y gystadleuaeth i flynyddoedd dau, tri a phedwar oedd Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen. Siôn hefyd gafodd y fraint o feirniadu’r gystadleuaeth i flynyddoedd pump a chwech.
Am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth, roedd cyfle i blant uwchradd gystadlu eleni.
Yn ôl beirniad y gystadleuaeth honno i flynyddoedd saith, wyth a naw sef yr awdures Anni Llŷn, “roedd y safon yn uchel iawn, ac roedd yn ddifyr darllen amrywiaeth o straeon gyda dychymyg a chreadigrwydd”.
Fe wnaeth y ddau feirniad ddewis brawddegau agoriadol y straeon eleni, gan ofyn i’r cystadleuwyr ddefnyddio eu dychymyg i orffen y stori.
Mae Siôn ac Anni’n llongyfarch pob awdur wnaeth ysgrifennu stori ar gyfer cystadleuaeth “o safon uchel iawn” ac yn annog pob un awdur i barhau i ysgrifennu.















































