“Er ei bod hi’n drychineb mor ddiweddar, dim ond 90 mlynedd yn ôl, dydy hi ddim yn rhywbeth sy’n rhan o’r ymwybyddiaeth gyhoeddus, ddim yng Nghymru ac yn sicr ddim ym Mhrydain”, medd Mr Davies, sy’n or-ŵyr i asiant glowyr a fu’n delio gyda’r dynion a’u teuluoedd wedi’r drychineb.
Mae’n dweud bod “anwybodaeth” am Gresffordd, ac yn awgrymu fod hynny o bosib yn ymwneud a lleoliad y drychineb.
“Mae ‘na bobl sydd erioed wedi clywed am y drychineb hon ac mae hyn efallai oherwydd ei fod mewn maes glo yng ngoledd Cymru a ddim wedi gwreiddio cymaint yn y cof cyffredin ag y buasai digwyddiad mor fawr wedi gwneud fel arall.”


















































