Mae Pili Palas wedi bod yn sefydliad adnabyddus ar Ynys Môn ers dros 40 mlynedd.
Cafodd y safle ger Porthaethwy ei sefydlu yn 1985 fel canolfan glöynnod byw, ond dros y degawdau mae wedi ehangu i gynnwys mwy o greaduriaid, ac wedi dod yn fan poblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol.
Ac ar ôl bod yn nwylo Gwawr a Steve Bell am flynyddoedd, mae bellach yn cael ei redeg gan Endaf ap Ieuan, ei wraig Sally a’u merch Lois.
Ond sut mae rhywun yn penderfynu mynd amdani a phrynu sŵ?
“Lois ‘nath roi galwad ffôn i Sally, a dyma fi’n gweld Sally yn rhyw chwerthin efo hi’i hun,” eglurodd Endaf wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
“Duw, beth sy’n bod, meddai fi, pam ti’n chwerthin? A dyma hi’n d’eud, mae Lois newydd ffonio a deud bod Steve a Gwawr wedi holi fysa ni ffansi prynu Pili Palas.
“O, be’ ddudis di, meddai fi? Dim ffiars o beryg. O, Sally, meddai fi.
“A naw mis yn ddiweddarach, dyma ni!”















































